top of page
Vri Narberth 2022 _JennieCaldwell103_edited.jpg

Beth yw ffidil fawr?

Penwythnos ffidil cymreig

Vri Narberth 2022 _JennieCaldwell24_edited.jpg

20fed - 22ain medi 2024 | Sept' 20th - 22nd 2024

Ffidil Fawr 2024 yw'r rhifyn cyntaf yr encil ffidil penwythnos ymgolli hwn, a gynhelir gan driawd gwerin siambr Cymreig ac enillwyr aml-wobr, VRï. Bydd y cynulliad hwn yn gyfle i chwaraewyr ffidlau mawr a bach rannu alawon a syniadau - felly dewch â'ch ffidil, fiola, soddgrwth, bas dwbl - a hyd yn oed eich crwth neu fiola da gamba - a byddwch yn barod i archwilio cerddoriaeth draddodiadol Gymreig o'i yn fwyaf plaenus i'w mwyaf bywiog a mwyaf traed-droed, tra'n cael eich arwain gan VRï yn eu steil siambr-gwerin.

 

Ymunwch â ni am benwythnos ym Mharc Cenedlaethol Eryri godidog, pan fyddwn ni'n helpu chi i ehangu eich repertoire o alawon traddodiadol, datblygu eich arddull a’ch techneg, a hwyluso llwyth o gyfleoedd i greu cerddoriaeth gydag eraill mewn grwpiau siambr mawr a bach, gan orffen gyda 'Ffidil Fawr' go iawn - pob un ohonom gyda'n gilydd mewn un gerddorfa ffidil fawr wych, gyda cherddoriaeth a recordiadau ar gael ymlaen llaw er mwyn i chi gael golwg drosto cyn cyrraedd.

 

Mae'r cwrs yn agored i unrhyw a phob chwaraewr llinynnol o brofiad canolradd ac uwch; Felly p’un a ydych chi’n ffidlwr gwerin profiadol neu wedi chwarae genres eraill ac eisiau rhoi cynnig ar gerddoriaeth draddodiadol erioed, dyma’r digwyddiad i chi! Byddwn ni'n addysgu wrth glust yn bennaf, ond bydd y 'dots' ar gael ar gyfer pob elfen o'r cwrs i bwy bynnag fyddai'n faffrio darllen. 

Beth ydyn ni'n golygu wrth 'ganolradd'?

Os ydych chi'n weddol hyderus yn chwarae yn y safle cyntaf, yn gwybod ble mae'r nodau (fwy neu lai!) ac yn hapus i ddefnyddio'r bwa, byddwch chi'n cael rywbeth allan o'r penwythnos. Byddwn ni'n grwpio pobl o'r un safon gyda'i gilydd fel bod pob dosbarth yn gallu dysgu a datblygu ar yr un cyflymder.

Bydd Ffidil Fawr yn digwydd yng nghanolfan addysg awyr agored Plas Caerdeon yng Nghaerdeon, Gwynedd. Wedi’i leoli ar lan aber hardd Mawddach ym mhen deheuol Parc Cenedlaethol Eryri, dyma smotyn gwych i encilio o brysurdeb y byd a chanolbwyntio ar greu cerddoriaeth - tra’n hawdd ei gyrraedd mewn car (75 munud o Fangor neu Aberystwyth, 3 awr o Gaerdydd). Mae opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gael hefyd, gyda gorsaf reilffordd Abermaw a gwasanaethau bws rheolaidd TrawsCymru i Ddolgellau gerllaw.

Bydd llety mewn ystafelloedd a rennir, ond gallwn ni ddarparu ar gyfer archebion ystafell grŵp. Atebwch y cwestiynau ar y ffurflen archebu i roi gwybod i ni.

Plas Caerdeon_edited.jpg

Ble mae'n digwydd?

Yn ystod y dydd byddwch chi'n cael y cyfle i weithio yn eich prif grŵp (yn seiliedig ar eich profiad; dewis rhwng sylfaenol, dyheadol neu uwch) lle bydd y ffocws ar adeiladu repertoire a thechneg sylfaenol. Yn ystod y sesiynau hyn byddwn ni'n hefyd yn treulio ychydig o amser yn gweithio ar rai darnau byddwn ni'n chwarae gyda’n gilydd yn ein Cerddorfa Ffidil Fawr! Yn ogystal â’r prif grwpiau, ry'n ni'n cynnig detholiad o ddosbarthiadau dewisol (e.e. hunan-gyfeiliant cân gyda’ch offeryn, improfeisio harmonïau i alawon, cyflwyniad i ffidl bluegrass). Ac os ych chi wedi pacio’ch esgidiau cerdded (ac 'falle'ch anorac), wel beth am fynd allan i archwilio amgylchoedd prydferth dyffryn Mawddach hefyd! Byddwn ni'n gofyn i chi nodi eich dewis o brif grŵp wrth archebu, ond bydd y dosbarthiadau dewisol ar gael i gofrestru ar ôl cyrraedd. Byddwn ni hefyd yn anfon llyfr alawon digidol atoch cyn y cwrs gydag alawon sesiwn Cymraeg safonol, er mwyn i chi gyrraedd gydag cwpl o alawon yn barod i fynd.

 

Mae'r nosweithiau'n cael eu neilltuo ar gyfer cerddoriaeth fwy anffurfiol, gyda sesiynau alaw yn cael eu hannog ledled ardaloedd cyffredin y tŷ. Byddwn ni'n cynnal dwy sesiwn mewn ystafelloedd ar wahân (un yn gyflym ac yn gandryll, a’r llall yn gyson) ac felly ry'n ni'n edrych ymlaen at jamio gyda chi ymhell i’r nos.

Yn ogystal â hyn, ar y nos Sadwrn ry'n ni'n gwahodd chi i berfformiad VRï arbennig iawn, ble byddan nhw'n rhannu eu brand unigryw o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig wedi’i drefnu yn eu steil siambr-gwerin nodweddiadol. Mae'n mynd i fod yn gyfarwydd ac yn 'unplugged' ... byw yn yr ystafell fyw!

 

Sylwch - mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at chwaraewyr offerynnau llinynnol bwa sydd â lefel ganolradd o brofiad neu uwch. Fodd bynnag, os ych chi hefyd yn chwarae rhywbeth arall (waeth pa mor anarferol!) ac yn ffansïo chwarae fe yn ystod y sesiynau yn y nosweithiau felly dewch a fe gyda chi -  byddwn ni wrth ein boddau i glywed beth bynnag sydd gyda chi -  mae'n wych cael ychydig o amrywiaeth i mewn i sesiwn!

Mae'r penwythnos yn gwbl gynhwysol, bydd llety ym Mhlas Caerdeon, a phrydau wedi'u coginio i ni yny Plas. Gallwn ni ddarparu ar gyfer gofynion dietegol, a bydd ystafelloedd yn cael eu rhannu â phobl eraill ar y cwrs - mae gyda ni opsiwn ar gyfer ystafelloedd un rhyw os oes angen. Mae arwyddo mewn a chofrestru ar brynhawn dydd Gwener, a byddwn ni'n gorffen ac yn gadael ar ôl cinio ar ddydd Sul.

Beth Sydd ar gael?

2024

cofrestra fi! Sut ydw i'n archebu?

Pris y penwythnos yw £275 (£255 os ti'n brynu cyn 1af o Fai), sydd yn cynnwys eich llety, prydau a'r cwrs.

Os ychi angen lifft, cysylltwch â ni a gallwn ni'n trio drefnu rhywbeth. 

Os oes gennych chi unrhyw cwestiynau eraill, anfonwch ebost i ffidilfawr@gmail.com

bottom of page